Cyfarfod Mawrth Bwyd y Fro – Mae Croeso i Bawb!
Dewch i Gyfarfod ein Rhwydwaith ar 30 Mawrth am gyfle i gysylltu â gweithredwyr eraill yn y Fro a chreu llais ar y cyd dros newid lleol! Mae croeso i bawb!
Codi ymwybyddiaeth o fudd-daliadau’n ymwneud â bwyd yng Nghymru!
Mae Timau Iechyd y Cyhoedd a Deieteg Lleol BIP Caerdydd a’r Fro wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i amlygu’r Budd-daliadau’n Ymwneud â Bwyd sy’n bodoli i gefnogi teuluoedd ar incwm isel i gael mynediad at fwyd iachach.
Mae Academi Arlwyo a Lletygarwch newydd yn ceisio cael mwy o weithwyr proffesiynol medrus i mewn i’r sector lletygarwch
Mae Academi Arlwyo a Lletygarwch wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau cyflawn sydd eu hangen arnoch i ddechrau eich gyrfa ym maes lletygarwch. Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at unigolion a hoffai archwilio llwybrau gyrfa blaen-tŷ a chefn-tŷ; ac sydd am ddod o hyd i waith yn y diwydiant cyflym ac amrywiol hwn.
Cyfarfod Tachwedd Bwyd y Fro
Dewch i’n gofod rhwydweithio anffurfiol agored i greu cysylltiadau, canfod mwy am brosiectau a mentrau bwyd lleol a rhannu syniadau
Cyfle newydd i ddysgu sut i goginio prydau iach a blasus ar gyllideb yn y Barri!
Mae’n bleser gennym gyhoeddi cwrs Dewch i Goginio wythnosol newydd yng Nghanolfan Gymunedol Castleland yn y Barri.
Lansio Canolfan Bwyd a Mwy Llanilltud yn llwyddiant mawr
Yn ddiweddar, bu trigolion Llanilltud Fawr a'r gymuned ehangach yn bresennol yn lansiad swyddogol y Ganolfan Bwyd a Mwy newydd, o dan Bartneriaeth Prosiect Bwyd Llanilltud Cyngor Bro Morgannwg, dan arweiniad Bwyd y Fro.
Ymunwch â ni i ddathlu lansiad Prosiect Bwyd Llanilltud
Ar ran ein Partneriaeth Prosiect, mae'n bleser gennym eich gwahodd i fynychu lansiad ar y cyd Prosiect Bwyd Llanilltud
Diweddariad gan Lywodraeth Cymru ar bartneriaethau bwyd
Ddydd Llun, Gorffennaf 11eg, bu Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cadeirio Uchwgynhadledd Costau Byw lle cyhoeddodd cyfres o ymyriadau, gan gynnwys cefnogaeth ariannol ar gyfer partneriaethau bwyd traws-sector yng Nghymru.
Y Loteri Genedlaethol yn cymeradwyo cyllid ar gyfer prosiect y Fro i wella mynediad at fwyd
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Prosiect Mynediad at Fwyd Llanilltud Fawr wedi llwyddo i gael cyllid ar gyfer ei gynllun peilot, sydd yn creu mynediad at fwyd fforddiadwy, iach a maethlon ar gyfer llawer o gymunedau ar draws y Fro.
Blas ar lwyddiant: Bro Morgannwg yn dathlu cyflawni Gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy
Heddiw (dydd Mercher, 15 Mehefin), cyhoeddwyd bod Bro Morgannwg wedi ennill statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, sy’n golygu mai dyma’r ail le yn unig yng Nghymru i gael yr anrhydedd.
Y Cinio Mawr yw eich cyfle i ddathlu cysylltiadau cymunedol a dod i adnabod eich gilydd ychydig yn well.
Diddordeb yn cymryd rhan yn #YCinioMawr eleni? Rydym yn cynnig £150 i un grŵp Lwcus yn y Fro sydd eisiau cymryd rhan yn Y Cinio Mawr fis Mehefin.
Mae cymunedau’r Fro yn datblygu’r mudiad bwyd da lleol yng Ngŵyl Bwyd y Fro
Mae cymunedau ar draws y Fro yn cymryd yr awenau eleni yn ail Ŵyl Bwyd y Fro. Trefnir yr ŵyl gan Bwyd y Fro, sy’n rhan o rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy – rhaglen bartneriaeth dan arweiniad y Soil Association, Food Matters a Sustain: y gynghrair ar gyfer gwell bwyd a ffermio.
Llaeth Lleol Di-Blastig y Bont-Faen!
Rhoddodd yr angen i aileoli’r fuches odro yn 2020 dipyn o her i David a Tomos Adams Llanfrynach Farm Y Bont- faen, Bro Morgannwg. Ond yn y pendraw esblygodd ar syniad newydd, ac yng nghanol stormydd triphlyg mis Chwefror, gwelwyd lansio’r ‘Milk Shed’ sef peiriant gwerthu llaeth hunan-wasanaeth sero milltir wedi ei bweru gan ynni solar.
Lansio gwefan newydd yn cynnig cyngor maeth ac addysg
Bydd gwefan Sgiliau Maeth am Oes yn darparu cymorth a chyngor i bobl ledled Cymru.
Lansio Cynllun Gweithredu Bwyd Iach a Chynaliadwy y Fro!
Rydym wedi defnyddio syniadau a gyflwynwyd gan Rwydwaith Bwyd y Fro, sgyrsiau gyda dinasyddion angerddol ar draws y Fro ac arbenigedd Grŵp Llywio Bwyd y Fro er mwyn llunio cynllun gweithredu ar gyfer y mudiad bwyd da yn 2022/23.
Gwirfoddolwyr Fan Cadfield eisiau lledaenu llawenydd a hapusrwydd y Nadolig hwn!
Mae gwirfoddolwyr Fan Cadfield eisiau lledaenu llawenydd a hapusrwydd y Nadolig hwn trwy gefnogi teuluoedd wrth greu Basgedi Nadolig hyfryd.
DIWEDDARIAD AR GYCHWYN IACH AR GYFER MANWERTHWYR
Mae Cychwyn Iach yn gynllun gan y llywodraeth sydd yn rhoi mynediad at ffrwythau, llysiau, corbys, llaeth a fitaminau am ddim i fenywod beichiog a rhieni/gofalwyr plant hyd at 4 oed sydd ar incwm isel.
Cyfarfod Rhwydwaith Nesaf
Yn y Cyfarfod hwn o’r Rhwydwaith, byddwn yn lansio Cynllun Gweithredu 2022 ar gyfer y mudiad bwyd da ym Mro Morgannwg, ac yn cynnal trafodaethau thema ar destunau fel tyfu cymunedol a gwastraff bwyd.
Prosiect newydd yn rhoi mynediad at ffrwythau a llysiau ffres i deuluoedd gyda chymorth SPLICE a T-GRAINS
Mae Fferm Slade wedi bod yn gweithio gyda Phrosiect Plant a Theuluoedd CSA (Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned) ar gyfer y tymor.
Dinasyddion y Fro yn uno i ffurfio cynllun bwyd lleol cynaliadwy
Daeth pump ar hugain o ddinasyddion ar draws Bro Morgannwg – yn cynrychioli cynhyrchwyr bwyd lleol, arweinwyr prosiectau tlodi bwyd, busnesau annibynnol, gweithgareddau bwyd a thyfwyr bwyd cymunedol – ynghyd wythnos diwethaf i gyflwyno eu syniadau am system bwyd lleol cynaliadwy yn y Fro.
Top 10 places to buy local in the Vale this summer
We’re lucky in the Vale to have a number of great places to buy your ingredients locally. So if you’re cooking al fresco this summer, why not buy local and enjoy your food full of flavour.
Opening of the Penarth Food Pod
A new pay-as-you feel FoodPod has opened in St. Lukes, Penarth, which will help local residents access affordable food.
Food Vale works in partnership to improve access to a good meal for everyone, everyday
Food Vale is working closely with the Health Board and a number of partners including Vale Foodbank and Vale of Glamorgan Council, to understand the barriers people living in the Vale face in feeding themselves or their families.
Food Vale partner Cywain celebrates 3 years!
It's been 3 years since the start of the Cywain project and to celebrate they have put together this infographic which demonstrates the support they have offered food & drink producers across Wales!