Prosiect Bwyd Llanilltud
Mae mynediad at fwyd fforddiadwy, iach a maethlon yn un o’r egwyddorion craidd sy’n sail i waith Partneriaeth Fwyd y Fro, fel y gwelir yn ein nod siarter Pryd da i bawb, bob dydd.
Dechreuodd Prosiect Bwyd Llanilltud ym mis Hydref 2020, pan ddaeth partneriaid allweddol at ei gilydd i archwilio beth yw’r rhwystrau igael gafael ar fwyd da yn Llanilltud Fawr. Drwy sgwrsio ag aelodau’r gymuned leol ac arbenigwyr, dechreuodd y grŵp greu darlun o’r hyn y gellid ei wneud i wella’r sefyllfa. Diolch i gyllid gan y loteri genedlaethol, rydyn ni bellach yn rhoi’r syniadau hyn ar waith i gael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol.
Er mai bwyd sydd wrth wraidd y prosiect hwn, mae hefyd yn ceisio meithrin llawer o fuddion eraill i’r gymuned leol. Er enghraifft, cynyddu cysylltioldeb cymunedol, codi ymwybyddiaeth o ble i gael cymorth a sicrhau bod pobl yn derbyn yr help y mae ganddynt hawl iddo. Gallwch ddisgwyl gweld y canlynol:
-
- Hyb cymunedol misol yng nghanolfan CF61, gan gynnwys arddangosiadau coginio, cynllun benthyca offer a chymorth wyneb yn wyneb.
- Gwell cyfeiriad at, a gwybodaeth am wasanaethau, digwyddiadau a chymorth lleol.
- Gwasanaeth pantri bwyd symudol sy’n cael ei brofi

Pam mae angen bwyd da arnom?
Mae Bwyd Da yn fwyd sy’n iach ac yn faethlon.
Mae bwyta’n dda a chael diet iach yn galli helpu ni gyd i deimlo ein gorau ac i wneud gwahaniaeth mawr i’n hiechyd dros y tymor hir, gan leihau ein risg o gyflyrau tymor hir fel clefyd coronaidd y galon. Mae bwyta bwyd ac yfed diodydd iach yn bwysig trwy ein bywydau er mwyn ein hiechyd a’n lles corfforol a meddyliol. Mae hyn yn golygu bwyta amrywiaeth eang o fwydydd yn y cyfrannau cywir i sicrhau bod gennym yr holl faetholion sydd eu hangen arnom. Gallwch ddarganfod mwy am beth yr ydym yn olygu wrth ‘fwyd da’ trwy edrych ar y Canllaw Bwyta’n Dda sy’n ganllaw darluniadol i ddangos y gyfran a’r mathau o fwyd sydd eu hangen i greu diet iach a chytbwys.

Pam Llanilltud Fawr?
Mae Llanilltud Fawr, fel llawer o gymunedau eraill ledled y Fro, yn gartref i grŵp gwerthfawr ac ymroddedig o unigolion a grwpiau sy’n gweithio i sicrhau bod bwyd da ar gael i’w trigolion. Serch hynny, mae’n dal i wynebu’r un heriau sy’n gysylltiedig â mynediad i fwyd â gweddill y Fro. Ynghyd ag aelodau o’r gymuned o bob rhan o Lanilltud Fawr, ein nod yw casglu straeon a phrofiadau i feithrin dealltwriaeth fanwl o’r hyn y gellir ei wneud i wella mynediad at fwyd. Bydd y prosiect peilot hwn yn llywio sut y gallwn o bosibl ehangu’r gwaith hwn y tu hwnt i Lanilltud Fawr er mwyn sicrhau bod pawb yn cael pryd da bob dydd.


Pwy sy’n cymryd rhan?
Rydym yn cydweithio â’r sefydliadau sydd ar flaen y gad o ran cefnogi ein cymunedau i sicrhau bod bwyd ar gael iddynt. Gwyddom mai cydweithio yw’r ffordd orau o sicrhau newid hirdymor i’n cymunedau. Dyma rai o’n partneriaid allweddol hyd yma:
- More In Common Chatty Cafe
- The Need to Feed
- Struggles to Smiles
- Gwasanaeth Gwirfoddol Morgannwg a CF61 Foodshare
- Banc Bwyd y Fro
- Benthyg
- Banc Bwyd Llanilltud Fawr
- Deieteg Iechyd y Cyhoedd
- Cyngor Bro Morgannwg
- Cyngor Tref Llanilltud Fawr
- Ysgol y Ddraig
- Cymdeithas Tai Newydd
- FareShare Cymru
- Cyngor ar Bopeth, Caerdydd a’r Fro
- Tîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro
- Hafod Housing
- Plant Llantwit
- Age Connects

Gwrandwch eto
Fiona Kinghorn & Cllr Lis Burnett talk about the Llantwit Food Access Project:
Emma Holmes talks about the benefits of eating well:
Leanne Taylor from CF61 talks about the FoodShare:
Vicky Lang talks about her project The Need To Feed:
Becky and Phil from the Vale Foodbank share their insights:
