Loading Events
This event has passed.

This video is the second video in a series exploring the key Food Vale key priorities.

In this video, we visit Forage Farm Shop and Restaurant, near Cowbridge, to find out what ‘thriving local businesses that are supported and valued’ means to them. Head chef Matt Eales takes us through a mouth-watering recipe for Spring lamb stuffed with wild mushroom, spinach and black sheep’s cheese, served with pickled wild mushroom, celeriac fondant, Jerusalem artichoke purée, seasonal veg.

Forage Farm Shop and Restaurant is located in the Penllyn Estate Farm and many of the ingredients used in their kitchen are sourced locally using seasonal produce. Most of the products sold in their Farm Shop comes from Welsh food businesses and producers.

‘Thriving local businesses which are supported and valued’ is one of Food Vale’s three key priority areas. You can find out more about our priority areas, and make a pledge to do your bit for the good food movement in the Vale, by signing our Food Vale Charter.

This exciting video will be launched here on our website, on Twitter and in our Facebook Page.

+++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++

Busnesau lleol sy’n ffynnu: Forage Farm Shop and Restaurant

Y fideo hwn yw’r ail fideo mewn cyfres sy’n edrych ar flaenoriaethau allweddol Bwyd y Fro.

Yn y fideo hwn, rydym yn ymweld â Forage Farm Shop and Restaurant, ger y Bont-faen, i ddarganfod beth mae ‘busnesau lleol sy’n ffynnu ac sy’n cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi’ yn ei olygu iddyn nhw. Mae’r prif gogydd Matt Eales yn mynd â ni drwy rysáit sy’n tynnu dŵr o’ch dannedd ar gyfer Cig oen wedi’i stwffio â madarch gwyllt, sbigoglys a chaws ‘Black Sheep’, wedi’i weini â madarch gwyllt wedi’u piclo, ffondant seleriac, piwrî artisiog Jerwsalem a llysiau tymhorol.

Mae Forage Farm Shop and Restaurant wedi’i leoli ar Fferm Ystâd Penllyn, ac mae llawer o’r cynhwysion a ddefnyddir yn eu cegin yn lleol, a defnyddir cynnyrch tymhorol hefyd. Mae’r mwyafrif o’r cynhyrchion sydd ar werth yn eu siop yn rhai gan fusnesau a chynhyrchwyr bwyd o Gymru.

‘Busnesau lleol sy’n ffynnu ac sy’n cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi’ yw un o dri maes blaenoriaeth allweddol Bwyd y Fro. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein meysydd blaenoriaeth, a gwneud adduned i wneud eich rhan ar gyfer y symudiad bwyd da yn y Fro drwy arwyddo Siarter Bwyd y Fro.

Bydd y fideo cyffrous hwn yn cael ei lansio yma ar ein gwefan, ar Twitter ac ar ein dudalen Facebook.