Loading Events
This event has passed.

To kick off the Food Vale Festival, we are launching our first of three videos exploring the Food Vale key priorities.

This first video looks at our goal of ‘a good meal for everyone everyday’, and is set in Cadog’s Corner in Barry – an innovative community café based in a converted shipping container attached to Cadoxton Primary school. Natasha Cockram, who runs food and nutrition skills workshops with the pupils, tells us a bit more about what happens at Cadog’s Corner and how it helps provide a good meal for everyone, everyday.

Cadog’s Corner uses donated FareShare food to provide wholesome meals for the café and provides cooking workshops and food parcels for vulnerable families. It was set up by parents and staff at Cadoxton Primary School to address isolation and food poverty, while offering opportunities for pupils and parents to learn new skills like cooking and food hygiene.

‘A good meal for everyone everyday’ is one of Food Vale’s three key priority areas. You can find out more about our priority areas, and make a pledge to do your bit for the good food movement in the Vale, by signing our Food Vale Charter. You can also find out more about Cadog’s Corner here.

This exciting video will be launched here on our website, on Twitter and in our Facebook Event, so tune in on Monday 22 March to see what Natasha and the pupils at Cadoxton have to say!

***********************************************************************************************

Pryd da i bawb, bob dydd: Cadog’s Corner

I gychwyn Gŵyl Bwyd y Fro, rydym yn lansio’r cyntaf o’n tri fideo sy’n edrych ar flaenoriaethau allweddol Bwyd y Fro.

Mae’r fideo cyntaf hwn yn ymweld â Cadog’s Corner i weld sut maent yn helpu i ddarparu ‘Pryd da i bawb, bob dydd’. Mae Cadog’s Corner yn gaffi cymunedol arloesol wedi’i leoli mewn cynhwysydd cludo wedi’i addasu ac sy’n rhan o Ysgol Gynradd Cadoxton yn y Barri. Mae Natasha Cockram, sy’n rhedeg gweithdai sgiliau bwyd a maeth gyda’r disgyblion, yn rhoi rhagor o wybodaeth i ni am y caffi a sut maent yn mynd i’r afael ag ynysu a thlodi bwyd mewn ffordd hwyliog! Mae Cadog’s Corner yn defnyddio bwyd a roddwyd i FareShare i ddarparu prydau iachus i’r caffi, ac mae hefyd yn cynnig gweithdai coginio a pharseli bwyd i deuluoedd sy’n agored i niwed.

Mae ‘Pryd da i bawb, bob dydd’ yn un o dri maes blaenoriaeth allweddol Bwyd y Fro. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein meysydd blaenoriaeth, a gwneud adduned i wneud eich rhan ar gyfer y symudiad bwyd da yn y Fro drwy arwyddo Siarter Bwyd y Fro. Yn ogystal, gallwch gael rhagor o wybodaeth am Cadog’s Corner yma.

Caiff y fideo cyffrous hwn ei lansio yma ar ein gwefan, ar Twitter ac ar ein Digwyddiad Facebook, felly tiwniwch i mewn ddydd Llun 22 Mawrth i weld beth sydd gan Natasha a’r disgyblion yn Cadoxton i’w ddweud!